Dewch i ymweld ag eglwys ganoloesol hardd Sant Mihangel yng nghanol pentref tawel a heddychlon Llanfihangel y Creuddyn, yng nghefn gwlad odidog Ceredigion.




Archwiliwch yr eglwys a’i hanes diddorol yn hamddenol yn eich amser eich hun. Dewch am daith dywys i fyny’r tŵr sydd wedi’i adfer neu fynychu un o’n digwyddiadau diddordeb diwylliannol. Cyfunwch eich ymweliad â lluniaeth yn Y Ffarmers, tafarn fwyta gwledig arobryn y pentref.
Ymweld
Mae’r eglwys yn rhad ac am ddim i ymweld â hi ac ar agor bob dydd rhwng 10yb a 4yp o ddechrau mis Mai tan ddiwedd mis Medi ac ar benwythnosau gweddill y flwyddyn.
Gwasanaethau
Cynhelir gwasanaethau ar y 3ydd a’r 4ydd Sul o’r mis am 9.45yb, gyda gwasanaethau arbennig ar gyfer y Nadolig a’r Pasg.
Digwyddiadau ar y gweill
18fed Medi 2026 – Cor Meibion y Mynyd (tocynnau ar gael drwy Facebook, yn bersonol neu yn y siop ar-lein isod.
Siop Arlein
18fed Medi 2026 – Cor Meibion y Mynyd (tocynnau ar gael drwy Facebook, yn bersonol neu yn y siop ar-lein isod.

Dod o Hyd i Ni
Lle
Eglwys Llanfihangel y Creuddyn Church, Llanfihangel y Creuddyn SY23 4LA