Trwy gydol y flwyddyn mae’r eglwys hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys sgyrsiau ar bynciau o ddiddordeb lleol, teithiau cerdded ystlumod, nosweithiau cerddoriaeth a chyrsiau ffotograffiaeth nos. Mae’r holl arian a godir o’r digwyddiadau hyn yn ein helpu i gynnal yr adeilad gwych hwn.
Mae hefyd yn bosibl archebu taith breifat ar gyfer unigolion neu grŵp. Rydym yn codi £5 y person neu bris sefydlog o £50 ar gyfer grŵp. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad a darganfod mwy.
Digwyddiadau ar y gweill

