Mae’r eglwys yn rhad ac am ddim i ymweld â hi, fodd bynnag rydym yn croesawu rhoddion i’n helpu i gynnal yr adeilad. Gellir gwneud hyn drwy arian parod gan ddefnyddio’r blwch offrwm neu gyda cherdyn gan ddefnyddio’r peiriant wrth y prif ddrysau. Os ydych yn drethdalwr yn y DU ac yn dymuno cyfrannu’ch taliadau drwy’r cynllun Rhodd Cymorth, mae ffurflenni papur ar gael yn yr eglwys neu drwy’r opsiynau ar y sgrîn os ydych yn talu â cherdyn.
Gallwch ymweld â’r eglwys:
- Amseroedd agor yr haf (Mai-Medi), 7 diwrnod yr wythnos 10yb i 4yp
- Amseroedd agor y gaeaf (Hydref-Ebrill) Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10yb i 4yp
- Cynhelir gwasanaethau ar y 3ydd a’r 4ydd Sul o’r mis am 9.45yb
- Gwasanaethau arbennig ar gyfer y Nadolig, Carolau Nadolig a’r Pasg
- Teithiau Tŵr ar gael (angen archebu)
- Digwyddiadau yn ystod y flwyddyn (angen archebu)
- Mynwent yr Eglwys ar agor drwy’r flwyddyn

Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
Cyfleusterau
- Parcio ar y stryd ger yr eglwys.
- Mae croeso i gerddwyr a beicwyr.
- Mae croeso i gŵn
- Ramp i fynd i mewn i’r eglwys
- Wi-Fi rhad ac am ddim.
- Ardal hanes ac arteffactau yng nghyntedd yr Eglwys ac yn y transept deheuol.
- Nid oes toiledau ar gael.
- Mae’r fynwent gyfagos yn anwastad mewn mannau, rhaid bod yn ofalus.
Beth am gyfuno eich ymweliad â lluniaeth yn Y Ffarmers (https://yffarmers.co.uk/), tafarn fwyta gwledig arobryn y pentref sydd ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul – edrychwch ar eu gwefan i gadarnhau oriau agor a’r bwydlenni presennol. Gellir archebu lle trwy ffonio 01974 261 275.
Mannau eraill o ddiddordeb yn agos i’r pentref yw Ystâd yr Hafod, Ystrad Fflur a Phontarfynach sy’n ymfalchïo yn ei rhaeadrau poblogaidd, detholiad o gaffis a gwestai yn ogystal â diwedd taith Rheilffordd Cwm Rheidol.
Beth i'w Ddisgwyl
Dewch i weddïo a myfyrio’n dawel mewn awyrgylch hudolus.
Dysgwch am hanes cyfoethog yr eglwys trwy’r ardal ddehongli yn y transept deheuol. Yma gallwch hefyd gael gwybod am rai o drigolion eraill yr eglwys – ein hystlumod!
Archwilio pensaernïaeth hudolus a nodweddion allweddol yr eglwys
- Y to wagen canoloesol trawiadol a osodwyd yn yr eglwys a’r transeptau rhwng 1502 a 1538 gan grefftwyr yn defnyddio derw a gwympwyd.
- Dwy fedyddfaen, un yn dyddio o’r 1800au a’r llall mae’n debygol o’r Canoloesoedd.
- Reredos derw cerfiedig unigryw sy’n darlunio’r swper olaf. Mae’r gwaith gan y cerflunydd o Wlad Belg, Jules Bernaerts, a oedd yn ffoadur yn yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Comisiynwyd y reredos gan Mr a Mrs Edward Roberts i goffáu adfer heddwch a’i gyflwyno i’r eglwys ym mis Mawrth 1919.
- Ffenestri gwydr lliw. Gan gynnwys ffenestr orllewinol goffaol hardd 2001 sy’n darlunio golygfeydd gwledig lleol a ffenestr gangell y gogledd sy’n dyddio o’r 1800au gyda dyluniad deilen.
- Cloch yr eglwys (yn y Transept Deheuol ar hyn o bryd) sy’n dyddio o 1686 ac a gastiwyd gan William a Thomas Covey o Limerick yn Iwerddon, er nid yn wreiddiol ar gyfer yr eglwys hon.
Archwiliwch y fynwent hynod ddiddorol, ar agor drwy gydol y flwyddyn
Mae’r eglwys wedi’i hamgylchynu gan fynwent gylchol, lle mae sawl coeden ywen fawr a choed ynn hynafol i’w gweld. Dyma’r hen fynwent a chredir ei fod yn rhagddyddio’r eglwys bresennol. Yn 1928 sefydlwyd mynwent newydd ar gyfer yr eglwys ar gyrion y pentref.
Mae cenedlaethau o deuluoedd lleol wedi’u claddu ym mynwent yr eglwys, lle mae defaid yn dal i bori a lle mae gwirfoddolwyr yn sefydlu dolydd blodau gwyllt ac yn creu amgylchedd sy’n hafan i fywyd gwyllt.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am fynwent yr eglwys yng nghyntedd yr eglwys sydd ar gael bob amser.
Mae’r cerrig beddau cerfiedig yn nodi enwau, dyddiadau a chartrefi’r rhai a gladdwyd, ac mae’r gofrestr cerrig beddau ar gael i’w archwilio y tu mewn i’r eglwys.
Dewch ar Daith Tŵr
Yn ystod yr haf mae grŵp o wirfoddolwyr o’r gymuned leol yn cynnig teithiau i fyny tŵr yr eglwys ganoloesol. Yma byddwch yn dringo’r grisiau troellog canoloesol cul i’r llawr cyntaf lle mae ffenestr yn y llawr yn cynnig golygfa i lawr i galon yr eglwys. Yna byddwch yn dringo grisiau sydd newydd ei adeiladu i fyny dau hediad pellach i lawr uchaf y twr lle ceir y ffrâm cloch ysblennydd sy’n dyddio’n ôl i 1537. Mae’r ffenestri ar y lefel hon yn cynnig golygfeydd godidog o’r pentref a’r cefn gwlad cyfagos.
Cadwch olwg ar y wefan hon a thudalen Facebook yr eglwys am ddyddiadau Taith y Tŵr a gwybodaeth archebu. Rydym yn codi £5 y person am daith.
Mae hefyd yn bosibl archebu taith breifat ar gyfer unigolion neu grŵp. Rydym yn codi £5 y person neu bris sefydlog o £50 ar gyfer grŵp. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad a darganfod mwy.
Digwyddiadau yn yr Eglwys
Trwy gydol y flwyddyn mae’r eglwys hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gan gynnwys sgyrsiau ar bynciau o ddiddordeb lleol, teithiau cerdded ystlumod, nosweithiau cerddoriaeth a chyrsiau ffotograffiaeth nos.
Cadwch lygad ar y wefan hon a thudalen Facebook yr eglwys i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau ac archebu.