Mae’r eglwys yng nghanol pentref Llanfihangel-y-Creuddyn yng Ngorllewin Cymru, 7 milltir i mewn i’r tir o Aberystwyth.
Mae gwasanaeth bws cyfyngedig iawn i’r pentref ac felly’r opsiynau mwyaf ymarferol ar gyfer ymweld yw dod mewn car, tacsi neu ar feic.
Bydd côd post SY23 4LA yn dod â chi i sgwâr y pentref gyda’r eglwys ar un pen. Mae pum lôn gul yn arwain i ganol y pentref. Mae’r rhan fwyaf yn lonydd cul iawn, serth mewn mannau. Os nad ydych yn gyfarwydd â gyrru ar y math hwn o ffordd, rydym yn argymell dod at y pentref o’r Gorllewin, gan droi oddi ar y B4340 wrth yr arwydd am Lanfihangel y Creuddyn, tua milltir i’r de o New Cross.