Hanes

Sant Mihangel yw’r adeilad hynaf ym mhentref Llanfihangel y Creuddyn, ac mae wedi’i leoli o fewn tirwedd sy’n llawn hanes, gan gwmpasu bryngaerau cyn hanesyddol, caerau a filâu Rhufeinig, a mwyngloddiau plwm.

Mae’r fynwent gylchol yn hŷn na’r eglwys ei hun ac mae lefel y tir uwch yn arwydd o’i defnydd ar gyfer claddedigaethau dros y canrifoedd.

Ni wyddom yr union ddyddiad yr adeiladwyd yr eglwys a welwn heddiw. Mae’n ymddangos gyntaf mewn cofnodion tua 1300 OC, er bod ei tharddiad yn debygol o fod yn llawer cynharach. Byddai Arglwyddi Cymreig Cwmwd y Creuddyn, y bu Llanfihangel yn ganolfan weinyddol iddo gyda’i lys a’i bentref, yn sicr wedi bod ag eglwys yma a noda Brut y Tywysogion (Cronicl y Tywysogion) i Gwenllian, merch Maelgwn Ieuanc (Fychan), farw yn llys ei thad neu Lys yn Llanfihangel Gelynrhod (enw hŷn am yr anheddiad) yn 1254.

Mae maint yr Eglwys yn dangos pa mor bwysig a chanolog oedd Llanfihangel o fewn cwmwd Creuddyn yn y cyfnod canoloesol. Erbyn heddiw mae gan y pentref bach, tawel hwn bum ffordd yn arwain ato, gyda thŵr yr eglwys yn parhau i fod yn dirnod amlwg.

Yn ystod y canrifoedd diwethaf, daeth Sant Mihangel yn eglwys blwyf ehangach Llanfihangel y Creuddyn, a sefydlwyd y pentref a welwn heddiw.

Bu sawl cyfnod o atgyweirio, newidiadau ac adnewyddiadau i’r eglwys.

Ailosod Canoloesol
Rhwng 1500 a 1530 cafodd yr eglwys ei hadnewyddu’n sylweddol. Gosodwyd pren newydd a ffrâm gloch yn y tŵr ac aildoi’r eglwys gyda tho derw trawiadol “wagen”.

Atgyweiriadau a gwelliannau Fictoraidd
Mae’r rhain wedi cynnwys ychwanegu’r cyntedd a’r festri, gosod llawr a system wresogi newydd, gosod y seddi “pitch pine” ac ychwanegu’r meindwr i’r tŵr.

Y Fynwent
Mae’r fynwent, gyda’i mur crwm nodedig, yn hŷn na’r adeilad presennol. Hefyd, yn 1928 sefydlwyd mynwent newydd ar gyfer yr eglwys ar gyrion y pentref. Cafodd ei baratoi gan bentrefwyr a’i gysegru gan Arglwydd Esgob Tyddewi ar 16 Hydref 1928.

Heddiw mae Eglwys Sant Mihangel yn cael ei gwarchod fel Adeilad Rhestredig Gradd II*, enghraifft brin o eglwys ganoloesol Gymreig sydd heb ei newid i raddau helaeth.

Mwy o wybodaeth

Ymwelwch â’r ardal Hanes sydd wedi’i lleoli yn nhransept deheuol yr eglwys.

RCAHMW: https://coflein.gov.uk/cy/safle/105145/

Cadw Listed Building Description. https://cadwpublic-api.azurewebsites.net/reports/listedbuilding/FullReport?lang=&id=9850

Archaeoleg Dyfed Heneb: https://www.dyfedarchaeology.org.uk/wp/cy/discovery/projects/churches/st-michael-llanfihangel-y-creuddyn-ceredigion/

Cyfweliad gyda’r hanesydd lleol Gerald Morgan