Beth am gyfuno eich ymweliad â lluniaeth yn Y Ffarmers (https://yffarmers.co.uk/), tafarn bwyta gwledig y pentref sydd ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul – edrychwch ar eu gwefan i gadarnhau oriau agor a’r bwydlenni presennol. Gellir archebu lle drwy ffonio 01974 261 275.
Mannau eraill o ddiddordeb yn agos i’r pentref yw Stad yr Hafod, Ystrad Fflur a Phontarfynach sy’n cynnwys y rhaeadrau poblogaidd, detholiad o gaffis a gwestai yn ogystal â therfynfa Rheilffordd Cwm Rheidol.