Yr Eglwys

Mae Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion ynghanol pentref hardd a heddychlon Llanfihangel y Creuddyn, 7.4 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Bu’n sefyll ers dros 700 mlynedd ac mae iddi hanes cyfoethog. Heddiw Sant Mihangel yw eglwys y plwyf ac yn rhan o esgobaeth Tyddewi (Eglwys Cymru)

Ynghyd â thafarn Y Ffarmers ac ysgol y pentref, mae’r Eglwys yn ganolog i fywyd y pentref. Mae gennym gynulleidfa fechan ond ymroddedig a grŵp o wirfoddolwyr lleol sy’n gofalu am yr Eglwys a’r fynwent.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Eglwys wedi derbyn arian gan amrywiaeth o ffynonellau sydd wedi galluogi gwaith atgyweirio, addasiadau ac adnewyddiadau hanfodol [dolen i’r dudalen]. Yn 2024 derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cronfa Cynnal y Cardi trwy Gyngor Sir Ceredigion i hyrwyddo’r eglwys fel cyrchfan i ymwelwyr yn y sir.

Mae’r eglwys yn rhad ac am ddim i ymweld â hi ac ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm mis Mai i fis Medi ac ar benwythnosau gweddill y flwyddyn. Yma gallwch archwilio’r eglwys a’i hardal hanesyddol wrth eich pwysau.

Cynhelir gwasanaethau ar y 3ydd a’r 4ydd Sul o’r mis am 9.45am, gyda gwasanaethau arbennig ar gyfer y Nadolig a’r Pasg.

Gallwch hefyd ddod am daith dywys i fyny’r tŵr sydd wedi’i adfer neu fynychu un o nifer o ddigwyddiadau diddordeb diwylliannol.

Getting married at the Church

Every year we play host to a number of weddings especially for local couples, if you’d like to find out more please contact us.

Adfer yr Eglwys

Fel y gallwch ddychmygu gan ei bod yn eglwys sydd wedi sefyll ers dros 700 mlynedd bu sawl cyfnod o atgyweirio, newidiadau ac adnewyddu. Yn 2019 dechreuodd prosiect eglwys a chymuned y cam diweddaraf o’r gwaith atgyweirio a gwelliannau. Mae ein gwaith yn parhau hyd heddiw.

Aeth atgyweiriadau i’r eglwys i’r afael â phroblemau lleithder difrifol drwy atal dŵr rhag gollwng drwy’r tŵr i’r eglwys a thrwy ailosod y system wresogi bresennol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ail bwyntio wyneb deheuol a gorllewinol y tŵr gyda morter calch poeth. Darparwyd gwell mynediad hefyd trwy osod grisiau newydd i ddarparu mynediad cyhoeddus diogel ar ffurf ‘teithiau tŵr’ i fyny’r tŵr canoloesol rhyfeddol i’r clochdy hynafol. Crëwyd ardal hanes newydd hefyd yn yr transept deheuol lle mae dehongliadau ac arddangosion bellach yn cael eu harddangos.

Ni fyddai’r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb gyllid a chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, Sefydliad Wolfson, Ymddiriedolaeth Headley, Cyngor Sir Ceredigion, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yr Eglwys a’r gymuned leol.

Mae’r delweddau a’r ffilmiau isod yn dogfennu’r prosiect adfer hwn.